Grymoedd yn Uno i Fynd i’r Afael â Thybaco Anghyfreithlon yng Nghymru
Mae heddluoedd ledled Cymru wedi ymuno mewn ymgyrch aml-asiantaeth i helpu i fynd i’r afael â’r farchnad tybaco anghyfreithlon. Mae’r fenter wedi cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi argymell dull system gyfan o amharu ar dybaco anghyfreithlon yng Nghymru.