Billy’r ci yn sniffian chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon
Cafodd mwy na 250,000 o sigaréts anghyfreithlon a 20kg o dybaco rholio anghyfreithlon (digon ar gyfer 20,000 o sigaréts rolio) eu hatafaelu’r mis diwethaf o siopau a lleoliadau storio yn dilyn cyrchoedd ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys Bangor, Rhyl, Caernarfon, a Bae Colwyn.