Siop yn derbyn Gorchymyn cau yn dilyn Gwerthu Tybaco ac E-sigarets Anghyfreithlon i Blant
Gorfodwyd siop Zany ar Stryd Fasnachol, Aberdâr i gau am dri mis yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful. Yn dilyn atafaelu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a mwy na 5000 o e-sigarets tafladwy, nad oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016, caewyd y safle lawr.