AMDANON NI

Beth Rydyn ni'n ei Wneud

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Safonau Masnach Cymru a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â thybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon ledled y wlad. Ein cenhadaeth yw mynd i’r afael â’r gwerthiant o dybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon yng Nghymru.

Trwy roi gwybod am y cynhyrchion anghyfreithlon hyn, rydych chi’n helpu i amddiffyn eich cymuned, yn enwedig ein plant, rhag sylweddau niweidiol a gweithgarwch troseddol. Rhowch wybod amdano. Dim esgus. Byth.

Mae ein Gwaith yn Cynnwys

Addysgu'r Cyhoedd

Rydyn ni’n helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i dybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon, deall y risgiau, a gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw’n gweld cynhyrchion amheus yn eu cymuned.

Adrodd yn Ddienw

Mae ein system adrodd yn ddienw yn ei gwneud hi’n hawdd trosglwyddo gwybodaeth. Mae eich adroddiadau’n mynd yn uniongyrchol at Safonau Masnach Cymru, gan gadw eich enw yn ddiogel.

Cefnogi Gweithrediadau Gorfodi

Trwy gefnogi gweithrediadau gorfodi fel pryniant prawf, ymweliadau safle, ac atafaeliadau, rydyn ni’n helpu i gael gwared ar y cynhyrchion peryglus hyn o gylchrediad.

Pam Fod Hyn yn Bwysig?

Mae tybaco ac e-sigaréts anghyfreithlon yn broblem ddifrifol yng Nghymru. Mae tua 10% o’r farchnad dybaco yn anghyfreithlon ac mae 88,000 o bobl yn prynu’r cynhyrchion hyn bob blwyddyn. Mae cynhyrchion o’r fath yn aml yn cael eu gwerthu mewn cyfeiriadau preifat (39%), sy’n golygu bod y broblem yn hollbresennol yn ein cymunedau. Ers 2021, atafaelwyd dros 2.8 miliwn o sigaréts anghyfreithlon, ond mae’r broblem yn parhau. Mae’r cynhyrchion anghyfreithlon hyn yn peri risg nid yn unig i iechyd y cyhoedd ond hefyd i ddiogelwch y gymuned drwy ariannu troseddau cyfundrefnol.

Amddiffyn Plant
Mae gwerthwyr anghyfreithlon yn targedu plant â chynhyrchion rhad, gan ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw ddechrau ysmygu.
Diogelu Iechyd
Mae e-sigaréts anghyfreithlon heb gael eu profi ac maen nhw’n gallu cynnwys cynhwysion niweidiol, anhysbys, gan godi risgiau iechyd.
Atal Trosedd
Mae gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon yn gallu ariannu gweithgareddau troseddol fel masnachu cyffuriau a chamfanteisio.

Cwestiynau Cyffredin

Daw tybaco anghyfreithlon ym mhob lliw a llun. Weithiau mae’n cael ei alw’n dybaco 'anghyfreithlon' ac mae'n cyfeirio at sigaréts anghyfreithlon a phyrsiau baco. Y ffurfiau mwyaf cyffredin yw:
Brandiau Ffug
Efallai y bydd y rhain yn edrych fel brand poblogaidd, ond maen nhw'n cael eu cynhyrchu’n anghyfreithlon.
Brandiau Smygledig
Mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘illicit whites’ neu ‘cheap whites’ yn Saesneg. Maen nhw’n frandiau tramor sy'n dod i'r DU yn anghyfreithlon ac yn cael eu gwerthu ar y farchnad ddu.
Cynhyrchion Anghyfreithlon o Dramor
Mae’r cynhyrchion hyn wedi’u smyglo i mewn i'r DU heb dalu unrhyw doll (mae pecynnau yn aml yn arddangos ieithoedd tramor a diffyg rhybuddion iechyd).
Sigaréts unigol
Mae gwerthu sigaréts fesul un yn anghyfreithlon mewn sawl man.
Mae'r farchnad e-sigaréts anghyfreithlon yn tyfu'n gyflym, gan godi pryderon ledled Cymru. Dyma beth ddylech chi fod yn wyliadwrus ohono:
Nifer y Pyffiau
Ddylai e-sigaréts cyfreithlon ddim rhoi mwy na 600 pwff. Os dewch chi o hyd i e-sigaréts sy’n honni eu bod yn rhoi miloedd o byffiau, maen nhw fwy na thebyg yn anghyfreithlon.
Gormod o Hylif
Rhaid i'r e-sigaréts gynnwys dim ond 2ml o hylif neu lai. Mae unrhyw beth arall yn erbyn y gyfraith.
Dim Rhybuddion
Darllenwch y rhybuddion nicotin gofynnol. Mae e-sigaréts anghyfreithlon yn gallu cynnwys lefelau uchel iawn o nicotin, gan roi defnyddwyr mewn perygl.
Gwerthu i Blant
Mae'r cynhyrchion hyn yn aml yn cael eu gwerthu i blant, gan arwain at risgiau iechyd ac amlygiad posibl i gemegau niweidiol.
Mae gwerthwyr anghyfreithlon yn defnyddio sawl ffordd i werthu tybaco anghyfreithlon. Y ffyrdd mwyaf cyffredin o werthu yw:
Siopau
Cartrefi preifat
Tafarndai/Clybiau
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Cistiau ceir
Ar y strydoedd

Ar ôl i chi roi gwybod am rywun sy’n gwerthu tybaco neu e-sigaréts anghyfreithlon, bydd eich gwybodaeth yn cael ei hanfon at eich tîm Safonau Masnach lleol am ymchwiliad. Mae pob adroddiad yn chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i'r afael â'r farchnad anghyfreithlon.

Y Broses Ymchwilio:

  • Asesiad: Bydd Safonau Masnach yn adolygu'r manylion rydych chi wedi'u rhoi er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.
  • Pryniannau prawf: Mae swyddogion yn gallu gwneud pryniannau cudd i ddal gwerthwyr anghyfreithlon.
  • Cŵn synhwyro: Mae cŵn sydd wedi'u hyfforddi i synhwyro cynhyrchion anghyfreithlon cudd yn cael eu defnyddio, gan wella effeithiolrwydd yr ymchwiliad.
  • Ymweliadau safle: Mae swyddogion yn gallu ymweld â'r lleoliad y rhoddwyd gwybod amdano i gasglu tystiolaeth a gweithredu.
  • Casglu cuddwybodaeth: Mae adroddiadau'n helpu i greu darlun ehangach o werthu anghyfreithlon yn yr ardal.

Mae'r camau hyn yn hanfodol er mwyn cael gwared ar gynhyrchion anghyfreithlon ac amddiffyn ein cymunedau, yn enwedig plant ac unigolion sy’n agored i niwed. Mae eich adroddiadau yn hollbwysig er mwyn sicrhau amgylchedd mwy diogel i bawb yng Nghymru.

Ein heffaith ledled Cymru

Archwiliwch le mae tybaco anghyfreithlon a fêps wedi cael eu hatafaelu a’r effaith ym mhob rhanbarth.

Y newyddion diweddaraf

Edrychwch ar ein newyddion diweddaraf i weld sut mae tybaco a fêps anghyfreithlon yn effeithio ar fywydau go iawn – a sut gall eich adroddiadau wneud gwahaniaeth.