12 January 2023

Billy’r ci yn sniffian chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon

Cafodd mwy na  250,000 o sigaréts anghyfreithlon a 20kg o dybaco rholio anghyfreithlon (digon ar gyfer 20,000 o sigaréts rolio) eu hatafaelu’r mis diwethaf o siopau a lleoliadau storio yn dilyn cyrchoedd ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys Bangor, Rhyl, Caernarfon, a Bae Colwyn.

Mae swyddogion o Safonau Masnach, Gorfodi Mewnfudo, y Swyddfa Eiddo Deallusol a  Heddlu Gogledd Cymru wedi cymryd rhan gyda chefnogaeth gan gŵn canfod tybaco Billy o WagtailUK.

Dywedodd Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol Tybaco 0 Safonau masnach Cymru: “Mae ysmygu yn lladd dros 5000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn a bydd hanner yr holl ysmygwyr yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’w harfer.”Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts neu dybaco rholio sydd wedi’i smyglo a lle nad oes toll wedi’i thalu. “Mae hyn yn golygu y gellir ei werthu am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon yn yr economi anffurfiol gan greu problem sylweddol yn ein cymunedau. “Mae’n ei gwneud hi’n llawer haws i blant gael gafael ar dybaco a chaffael ar gaethiwed gydol oes ac mae’n ei gwneud yn llawer anoddach i ysmygwyr presennol roi’r gorau iddi.” “Mae canlyniadau’r cyrchoedd hyn yn dangos pa mor effeithiol y gall gweithrediadau ar y cyd fod. “Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei ddosbarthu a’i gyflenwi trwy rwydweithiau troseddol trefniadol – mae hyn yn aml yn digwydd yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac yn dod a  throseddau i’n cymunedau lleol.” Yn ogystal â’r symiau mawr o dybaco anghyfreithlon a gafodd eu hadennill, atafaelodd swyddogion werth £20,000 o e-sigarets anghyfreithlon ynghyd a swm o bersawr ffug.”

Mae dau safle wedi’u cau ac un unigolyn wedi’i arestio. Mae ymchwiliadau’n parhau.

Mae tybaco anghyfreithlon yn niweidio cymunedau fel eich un chi. Os ydych yn gwybod unrhyw beth am sigaréts amheus yn eich ardal rydym am gael gwybod. Gallwch adrodd yn gyfrinachol YMA.