Rhoi gwybod am dybaco ac fêps rhad ac anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae gwerthu tybaco a fêps rhad ac anghyfreithlon yn niweidio ein cymunedau trwy roi cynhyrchion caethiwus iawn yn nwylo plant. Mae hefyd yn cefnogi troseddau cyfundrefnol ac yn niweidio busnesau lleol. Rhoi gwybod am y rhain yw’r ffordd orau o ddiogelu pobl ifanc a chadw’ch cymuned yn ddiogel.

Ers mis Ionawr 2021, mae eich adroddiadau wedi gwneud gwahaniaeth. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi atafaelu tybaco a fêps anghyfreithlon, gan gadw cynhyrchion niweidiol allan o’n cymunedau ac amddiffyn ein plant. Mae pob adroddiad yn cyfrif!

Sigaréts a Atafaelwyd (Ffyn)
0
Tybaco Rholio Llaw a Atafaelwyd (KG)
0
Cyfanswm Gwerth ‘Cyfreithiol’ o Atafaeliadau (£)
£ 0

Y broblem yng Nghymru

Mae 10% o'r farchnad dybaco yng Nghymru yn anghyfreithlon.
Yn 2022, amcangyfrifwyd bod 88,000 o bobl yng Nghymru yn prynu tybaco anghyfreithlon
Mae 39% o dybaco anghyfreithlon yn cael ei werthu o gyfeiriadau preifat.

Pam rhoi gwybod amdano?

Amddiffyn Plant
Mae gwerthwyr anghyfreithlon yn targedu plant â chynhyrchion rhad, gan ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw ddechrau ysmygu.
Diogelu Iechyd
Mae fêps anghyfreithlon heb gael eu profi ac maen nhw’n gallu cynnwys cynhwysion niweidiol, anhysbys, gan godi risgiau iechyd.
Atal Trosedd
Mae gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon yn gallu ariannu gweithgareddau troseddol fel masnachu cyffuriau a chamfanteisio.

Ein heffaith ledled Cymru

Archwiliwch le mae tybaco anghyfreithlon wedi cael ei atafaelu a’r effaith ym mhob rhanbarth

Y newyddion diweddaraf

Edrychwch ar ein newyddion diweddaraf i weld sut mae tybaco a fêps anghyfreithlon yn effeithio ar fywydau go iawn – a sut gall eich adroddiadau wneud gwahaniaeth.