Beth Yw Tybaco Anghyfreithlon?

Beth Yw Tybaco Anghyfreithlon?

Mae tybaco anghyfreithlon yn cyfeirio at unrhyw gynnyrch tybaco sy'n cael ei werthu yn y DU heb ddilyn y gyfraith, gan gynnwys trethi. Daw tybaco anghyfreithlon ym mhob lliw a llun. Weithiau mae’n cael ei alw’n dybaco 'anghyfreithlon' ac mae'n cyfeirio at sigaréts anghyfreithlon a phyrsiau baco.
Brandiau ffug
Efallai y bydd y rhain yn edrych fel brand poblogaidd, ond maen nhw'n cael eu cynhyrchu’n anghyfreithlon.
Brandiau smygledig
Mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘illicit whites’ neu ‘cheap whites’ yn Saesneg. Maen nhw’n frandiau tramor sy'n dod i'r DU yn anghyfreithlon ac yn cael eu gwerthu ar y farchnad ddu
Cynhyrchion anghyfreithlon o dramor
Mae’r cynhyrchion hyn wedi’u smyglo i mewn i'r DU heb dalu unrhyw doll (mae pecynnau yn aml yn arddangos ieithoedd tramor a diffyg rhybuddion iechyd).
Sigaréts unigol
Mae gwerthu sigaréts fesul un yn anghyfreithlon mewn sawl man. Os ydych chi'n gweld rhywun yn gwerthu sigaréts unigol, mae'n debygol bod y cynnyrch yn anghyfreithlon.

Sut i'w weld?

Dim rhybuddion iechyd â llun
Rhaid i becynnau sigaréts cyfreithiol fod â rhybuddion iechyd mawr, clir gyda lluniau. Os nad oes gan y pecyn y rhain, gallai fod yn ffug.
Pecynnau ansafonol
Dylai pecynnau sigaréts i gyd edrych yn glir ac yn safonol. Os ydych chi'n gweld pecynnau wedi'u brandio'n llachar neu'n ffansi, mae'n debyg eu bod yn anghyfreithlon.
Rhybuddion iechyd mewn iaith dramor
Os yw'r rhybuddion iechyd ar y pecyn mewn iaith arall, mae'n debygol ei fod yn anghyfreithlon.
Mae codau tebyg ar y pecynnau
Dylai pob pecyn fod â chod gwahanol. Os ydych chi'n gweld pecynnau sydd â’r un cod ar y gwaelod, mae'n debyg eu bod nhw'n ffug.
Prisiau anarferol o isel
Os yw pecyn o 20 sigarét yn costio £4 neu £5 yn unig, mae'n debygol ei fod yn anghyfreithlon oherwydd mae sigaréts cyfreithlon yn ddrytach.
Gwerthu mewn lleoliadau anghyffredin
Mae'n debygol bod sigaréts sy'n cael eu gwerthu mewn llefydd fel tafarndai, cistiau ceir, neu o gartref rhywun yn anghyfreithlon.

Lle mae'n cael ei werthu?

Mae tybaco anghyfreithlon yn gallu ymddangos mewn llefydd annisgwyl. Mae tua 39% o achosion o werthu tybaco anghyfreithlon yn digwydd mewn cartrefi preifat, 19% mewn tafarndai neu glybiau, ac 11% mewn siopau bach. I bobl ifanc sy'n ysmygu, mae'n aml yn cael ei roi iddyn nhw gan ffrindiau neu deulu (39%), ac mae hefyd i'w gael mewn ysgolion (17%) ac mewn siopau (11%). Dyma rai mannau cyffredin:
Siopau
Cartrefi preifat
Tafarndai/Clybiau
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Cistiau ceir
Ar y strydoedd

Y newyddion diweddaraf

Edrychwch ar ein newyddion diweddaraf i weld sut mae tybaco a fêps anghyfreithlon yn effeithio ar fywydau go iawn – a sut gall eich adroddiadau wneud gwahaniaeth.