Hygyrchedd

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan ASH Cymru. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn gallu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • Cynyddu faint ffont y wefan gan ddefnyddio’r botwm “Toggle” ar ochr chwith pob tudalen.
  • Addasu maint ffont a bylchau rhwng testun gan ddefnyddio Ctrl a (+/-).
  • Llywio drwy rhan fwyaf o’r ffurfiau mewn modd rhesymegol.
  • Nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin.
  • Gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Gweld amlinelliad oren i bob elfen ar ffocws bysellfwrdd.
  • Gweld dolenni gwefannau allanol o fewn yr un tab porwr.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid oes gennych y gallu i newid y cynllun lliwiau.
  • Nid yw dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestri ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae ASH Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Nid yw’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. Rhestrir yr adrannau anhygyrch isod.

  • Dim dewis ‘neidio i’r prif gynnwys’ ar unrhyw un o’r tudalennau.
  • Nid oes modd i ddefnyddwyr addasu bwlch rhwng testun neu uchder llinell.

Rydym wedi asesu’r gost o drwsio’r problemau hyn ac yn credu y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall y tro nesaf y byddwn yn ailddatblygu’r wefan yn sylweddol, a fydd yn debygol o fod ymhen mis Ionawr 2026.

Problemau gyda’r testun

Nid yw llawer o’n dogfennau PDF canllaw hŷn a dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai na fyddant wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Erbyn Mis Ionawr 2026, rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r dogfennau neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Problemau ag elfennau rhyngweithiol a thrafodion

Mae ein map rhyngweithiol ar yr hafan yn anodd ei lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd. Ni fydd ein map rhyngweithiol ar yr hafan yn dangos yn gywir os yw cyferbyniad y wefan yn cael ei newid gan ategyn porwr.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1/11/24. Cynhaliwyd y prawf gan ASH Cymru.

Y newyddion diweddaraf