Polisi Preifatrwydd

Rhowch wybod am dybaco a fêps anghyfreithlon yn ddienw.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Y ffordd orau i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yw trwy roi gwybod amdano. Os ydych chi’n ei weld—dim esgusodion, dim ond rhoi gwybod!

Polisi Preifatrwydd Dim Esgus Byth

Yn yr hysbysiad hwn mae “ni” yn cyfeirio at Dim Esgus. Byth, prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei redeg gan Action on Smoking and Health (ASH) Cymru, elusen gofrestredig dan rif 1120834 a chwmni cyfyngedig trwy warant (rhif cwmni 6030302).

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Efallai y byddwn yn codi ffi fechan arnoch am hyn. Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad uchod, drwy ffonio 029 2049 0621 neu e-bostio report@noifs-nobutts.co.uk.

Mae’r polisi hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu gwybodaeth, y math o wybodaeth bersonol a chyfrinachol rydym yn ei chasglu ac ar gyfer beth y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno. Mae’r polisi hwn yn cwmpasu ein gwefan, ein gohebiaeth e-bost a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae’r polisi hwn yn rheoli preifatrwydd defnyddwyr yr uchod ac mae defnyddwyr yn rhwym wrth y telerau hyn.

Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio, amrywio a/neu dynnu’r polisi hwn yn ôl a gellir ei ddiwygio ar unrhyw ddyddiad, heb rybudd.

Mae’r polisi hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol. Mae’n berthnasol i wybodaeth a gasglwn am:

  • Ddefnyddwyr y wefan
  • Pobl yn cyflwyno adroddiadau am dybaco anghyfreithlon
  • Tanysgrifwyr cylchlythyr
  • Pobl sy’n cysylltu â ni
  • Pobl sy’n cysylltu â ni naill ai’n bersonol, drwy’r post, neu dros y ffôn

Dim ond yn y modd a nodir yn y polisi hwn y byddwn yn defnyddio gwybodaeth a gesglir am unigolion. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu gwybodaeth bersonol a chyfrinachol. Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) 2016.

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998, ni yw rheolydd data eich gwybodaeth bersonol. Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio, amrywio a/neu dynnu’r polisi hwn yn ôl o bryd i’w gilydd. Os bydd unrhyw newidiadau byddwn yn gyfrifol am benderfynu ar y ffurf briodol ar gyfer hysbysiad o’r fath.

Casglu gwybodaeth bersonol a chyfrinachol

Gwybodaeth bersonol yw unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei adnabod, megis enw, cyfeiriad, a chyfeiriad e-bost. Byddai gwybodaeth gyfrinachol yn wybodaeth a ddarperir gyda’r ddealltwriaeth na fydd yn cael ei rannu’n ehangach nac at ddibenion heblaw’r rhai y cytunwyd arnynt.

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a chyfrinachol a ddarperir gan unigolion pan fyddant yn cytuno i ddarparu hyn. Er enghraifft: darparu manylion cyswllt wrth roi gwybod am dybaco anghyfreithlon, cymryd rhan mewn cyfweliad, neu gwblhau arolwg, cymryd rhan mewn cystadleuaeth ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, wth archebu lle ar gyfer digwyddiad neu gysylltu â ni at ddibenion eraill trwy’r post, e-bost, ffôn neu drwy’r wefan. Bydd adroddiadau a gyflwynir yn cael eu prosesu gan dîm ASH Cymru a’u trosglwyddo i swyddogion gorfodi i ymchwilio i werthiannau tybaco anghyfreithlon yr adroddir amdanynt.

Mae’n bosib y byddwn yn derbyn ac yn storio gwybodaeth yn awtomatig pan fyddwch yn rhyngweithio â ni ar-lein, megis eich cyfeiriad IP, math o borwr ac a ydych yn edrych ar ein gwefan ar ddyfais symudol ai peidio. Fel gyda’r rhan fwyaf o wefannau, rydym yn defnyddio cwcis i wella ein gwefan a phrofiadau defnyddwyr.
Gall gwybodaeth bersonol a chyfrinachol gael ei ddarparu gan unigolion eu hunain neu gan bartneriaid trydydd parti sy’n ymwneud â mentrau ar y cyd â Dim Esgus. Byth. Pan fydd y wybodaeth yn cael ei darparu gan drydydd parti, byddwn yn sicrhau bod caniatâd penodol yn cael ei roi i rannu’r wybodaeth hon gyda ni a bod unigolion yn ymwybodol o sut y bydd y wybodaeth yn cael ei rheoli a’i defnyddio.

Defnyddio gwybodaeth bersonol a chyfrinachol

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a chyfrinachol a ddarperir gan unigolion at y dibenion canlynol:

  • Os ydynt yn dymuno mynychu digwyddiad i alluogi rheoli a gweinyddu’r archeb/li>
  • Os ydynt yn dymuno cael cynnyrch neu wasanaeth (am ddim neu am ffi) at ddiben prosesu’r archeb/li>
  • Os ydynt yn cymryd rhan mewn cyfweliad, yn cwblhau arolwg neu fel arall yn ymwneud â darparu gwybodaeth ymchwil, at ddiben coladu, adrodd a dadansoddi canlyniadau ymchwil/li>
  • At unrhyw ddiben sy’n codi’n rhesymol o neu mewn cysylltiad â’r unigolyn sy’n cael mynediad at wasanaethau Dim Esgus. Byth.
  • Os oes angen i ni hysbysu unigolion am newidiadau neu ddatblygiadau pwysig yn Dim Esgus. Byth, megis trwy’r cylchlythyr
  • O bryd i’w gilydd, i wirio’r wybodaeth bersonol a/neu gyfrinachol a ddarparwyd eisoes i sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn gywir. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am wybodaeth bersonol a/neu gyfrinachol ychwanegol gan unigolion er mwyn cynnal gwiriadau (yn gyffredinol mewn perthynas â thrafodion ariannol) gan ddefnyddio trydydd parti priodol at y diben hwn.
  • Mewn achosion o’r fath, byddwn yn cael caniatad penodol i wneud hyn gan yr unigolyn
  • Cysylltu ag unigolion drwy’r post, dros y ffôn neu drwy e-bost i hyrwyddo nodau amcanion y prosiect. Gall unigolion ddewis i beidio cael eu cysylltu yn y modd hwn at y dibenion hyn drwy e-bostio report@noifs-nobutts.co.uk
  • I gysylltu ag unigolion drwy’r post neu e-bost i hyrwyddo ein nodau ac amcanion, i ddarparu manylion am ein cynnyrch a’n gwasanaethau ni a/neu trydydd parti y credwn allai fod o ddiddordeb i chi ac i ofyn i chi lenwi holiaduron ac arolygon. Gallwch ddewis i ni beidio â chysylltu â chi yn y modd hwn at y dibenion hyn drwy ysgrifennu at Dim Esgus. Byth

Datgelu gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn yn gwerthu nac yn llogi’r wybodaeth bersonol a gasglwn am unigolion i unrhyw drydydd parti. Fodd bynnag, rydym yn cadw’r hawl i ddatgelu gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau cyfyngedig i drydydd parti penodol fel a ganlyn:

  • I unrhyw gontractwyr y gallwn eu cyflogi i’n cynorthwyo i gyflawni gweithgareddau a gwasanaethau ar ein rhan (e.e., ymchwilwyr,) lle mae’n rhaid i’r isgontractwyr hynny gadw at ein gofynion Diogelu Data a’n Polisi Preifatrwydd ein hunain.
    I ddarparwyr digwyddiadau sydd wedi’u his-gontractio i alluogi gweinyddu a rheoli’r digwyddiad, lle mae’n rhaid i’r isgontractwyr hynny gadw at ein gofynion Diogel Data a’n Polisi Preifatrwydd ein hunain.
  • ILle bo angen datgelu (i) mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth, gorchymyn llys neu gais gan y llywodraeth neu gais gan unrhyw awdurdod priodol arall; (ii) at ddibenion cymryd camau cyfreithiol i sefydlu neu arfer ein hawliau cyfreithiol neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol yn ein herbyn; (iii) ymchwilio, atal a/neu gymryd camau eraill mewn cysylltiad â gweithgareddau anghyfreithlon posibl, twyll a amheuir a/neu sefyllfaoedd sy’n cynnwys bygythiadau posibl i ddiogelwch corfforol unrhyw berson; (iv) achosion gwirioneddol neu amheuaeth o dorri ein polisïau diogelu data; neu (v) fel sy’n ofynnol fel arall a/neu a ganiateir gan gyfraith neu reoliad;
  • Efallai y byddwn yn hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth gyfanredol ar y defnydd o wefan Dim Esgus. Byth, cymryd rhan mewn digwyddiadau, canlyniadau astudiaethau ymchwil, ac ati i drydydd parti ond ni fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolion (h.y. bydd yn ddienw).
  • Bydd data o adroddiadau am werthu tybaco anghyfreithlon yn cael ei drosglwyddo i swyddogion gorfodi, megis Safonau Masnach a’r heddlu, a all gynnwys gwybodaeth bersonol, os yw’n cael ei darparu gan y defnyddiwr ac yn berthnasol i ymchwiliad pellach.

Datgelu gwybodaeth gyfrinachol

Rydym yn cadw’r hawl i ddatgelu eich gwybodaeth gyfrinachol yn yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • Gwybodaeth gyfanredol o ganlyniad i gymryd rhan mewn digwyddiad neu astudiaethau ymchwil, ond ni fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei ddefnyddio i adnabod unigolion

Diogelwch a chywirdeb gwybodaeth bersonol a chyfrinachol a chadw data

Mae gennym fesurau sefydliadol ar waith sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu gwybodaeth bersonol a chyfrinachol unigolion. Byddwn yn defnyddio pob cam rhesymol i ddiogelu gwybodaeth rhag cael ei newid, ei cholli neu ei chamddefnyddio. Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol a chyfrinachol gan unigolion am gyfnod rhesymol ac am gyhyd ag y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol.

Mae’r holl wybodaeth a ddarperir am unigolion yn cael ei storio’n ddiogel. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelir i drydydd parti nad yw’n cynnig ffordd ddiogel o drosglwyddo gwybodaeth i ni (e.e., e-bost).

Er y cymerir y gofal mwyaf gyda gwybodaeth defnyddwyr, ni allwn warantu bod unrhyw drosglwyddo data yn 100% diogel ac ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei throsglwyddo. Rydych yn trosglwyddo data ar eich menter eich hun. Sylwch nad yw e-bost a chyfathrebiadau electronig eraill yn ddiogel os nad ydynt wedi’u hamgryptio, ac y gall eich cyfathrebiadau fynd trwy weinyddion mewn sawl gwlad cyn iddo ein cyrraedd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw fynediad anawdurdodedig neu golled o ddata personol sy’n deillio o achos y tu hwnt i’n rheolaeth, ac ni allwn fod yn gyfrifol am weithredoedd neu anweithiau trydydd parti a allai gamddefnyddio eich data personol os caiff ei gasglu’n anghyfreithlon o’r wefan hon.

Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir am unigolion mewn fformat printiedig yn cael ei storio mewn systemau ffeilio dan glo a bydd ar gael yn unig i staff sydd angen mynediad at y wybodaeth hon er mwyn cyflawni eu gwaith (e.e., rheoli digwyddiadau, astudiaethau ymchwil, ac ati).

Mae ein holl staff yn rhwym i bolisi’r sefydliad ar Gyfrinachedd a gallai torri’r polisi hwn neu eraill sy’n ymwneud â rheoli gwybodaeth a diogelu data fod yn drosedd ddisgyblu.

Caiff ffeiliau, cofnodion ac allbrintiau cyfrifiadurol sy’n cynnwys data sensitif a gwybodaeth gyfrinachol eu dinistrio mewn modd diogel (e.e., darnio diogelwch). Bydd gwybodaeth bersonol a chyfrinachol a ddarperir drwy ddulliau electronig fel y ffurflenni adrodd/cyswllt gwefan yn cael ei dileu o’n cronfa ddata a’n systemau mewnol yn rheolaidd. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei dileu pan fydd wedi’i gweithredu a/neu wedi’i chyfeirio at y diben y’i cyflwynwyd.

Ein cyfeiriad cofrestredig

14 Hollybush Rise, Caerdydd, Cymru, CF23 6TG. 029 2049 0621

Y newyddion diweddaraf