Mae Safonau Masnach Cymru (TSW) yn rhybuddio y gall plant sy’n cyrchu nwyddau â chyfyngiad oedran arwain atynt yn ymwneud â materion mwy difrifol; Nid yw bellach yn ymwneud yn unig â chael gafael ar sigarét a’r goblygiadau iechyd sy’n dilyn.
Ledled Cymru eleni, daeth awdurdodau Safonau Masnach ynghyd i gasglu gwybodaeth ar argaeledd e-sigarets a chynhyrchion perthnasol i bobl dan oed.
O’r 1134 ymgais i brynu, arweiniodd 15% at werthiant; roedd mwyafrif y gwerthiannau o siopau cyfleustra, gyda siopau e-sigarets, archfarchnadoedd, tatŵwyr, gorsafoedd gwasanaeth a siop deganau hefyd yn gwerthu.
Mae’n destun pryder, mewn dau achos, y gofynnwyd i’r gwirfoddolwr dan oed beth oedd eu hoedran, ac atebwyd hynny’n onest, ac roedd wedi ei gyflenwi a’r cynnyrch er hynny.
Nodwyd tramgwyddo pellach fel rhan o’r gweithrediad. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchion oedd gyda mwy o nicotin na’r terfyn a ganiateir, labelu anghywir neu absenoldeb labeli, diffyg cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio ac absenoldeb manylion mewnforiwr.
Mae gwaith rhagweithiol mewn awdurdodau unigol yn ystod 2022 wedi gweld cyfradd methiant o 74% mewn cynnyrch e-sigarets a archwiliwyd i weld os oeddynt yn cydymffurfio, dros 1,600 o eitemau wedi’u tynnu o werthiant a chyngor sylweddol wedi ei ddarparu i’r masnachwyr.
Nid yw nifer yr achosion o e-sigarets yn golygu bod y problemau gyda sigaréts wedi lleihau.
DIM ESGUS. BYTH – Ymgyrch Adrodd ar Dybaco Anghyfreithlon (noifs-nobutts.co.uk) yn adrodd bod dros 2.8 miliwn o sigaréts anghyfreithlon a thros 400kg o dybaco rholio wedi’i atafaelu gan Safonau Masnach yng Nghymru ers Ionawr 2021.
Mae’r gwaith hwn yn gweld Safonau Masnach yn ymgysylltu â’r Heddlu a phartneriaid eraill fel cysylltiadau uniongyrchol gyda Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol, caethwasiaeth fodern, diogelu a cham-fanteisio rhywiol plant, llinellau cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dod i’r amlwg.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://tradingstandards.gov.wales/en/home/
Gellir clywed y podlediad ar gyfer Diwrnod 1 yn: https://tradingstandards.gov.wales/ên/tswweek/