Roedd ddoe yn Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Smygu, diwrnod y mae ffocws cenedlaethol ar ysmygu, y niwed y mae’n ei achosi, sut i roi’r gorau iddi a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y cefndir i leihau nifer y bobl sy’n ysmygu.
Bydd un o bob dau ysmygwr hirdymor yn marw’n gynamserol o ganlyniad i’w dibyniaeth a mae dros 5000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o glefyd sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Ar hyn o bryd mae 17% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu. Dyma’r isaf y bu erioed ond mae hynny’n dal i fod yn 425,000 o bobl.
Mae ysmygu yn achos trallod i lawer o deuluoedd ac mae’n faich sylweddol ar einsystem gofal iechyd.
Am y rhesymau hyn mae ffocws mawr ar helpu pobl i roi’r gorau iddi ac atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Mae ysmygwyr newydd yn blant yn bennaf a dechreuodd y rhan fwyaf o ysmygwyr cyfredol eu harfer ymhell cyn iddynt ddod yn oedolyn.
Mae gan lawer o asiantaethau yng Nghymru ran i’w chwarae ac mae Safonau Masnach yng Nghymru yn un ohonynt. Mae gan Safonau Masnach ffocws allweddol ar y fasnach mewn tybaco anghyfreithlon. Yn 2021, gyda chefnogaeth cyllid gan CThEM o dan Ymgyrch Cece, mae Swyddogion Safonau Masnach wedi atafaelwyd dros 3 miliwn o sigaréts ar draws Cymru gyfan gyda gwerth stryd o dros ¾ miliwn o bunnoedd. Mae hyn yn cynnwys dros 2.8 miliwn o sigaréts a bron i hanner tunnell o dybaco rholio.
Mae tybaco anghyfreithlon ar gael i’w brynu ledled Cymru o amrywiaeth o fannau gan gynnwys siopau a thrwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae fel arfer tua hanner pris tybaco cyfreithlon a nid oes unrhyw reolaeth dros oedran cwsmeriaid. Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws i blant brynu tybaco a dod yn gaeth. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n ysmygu eisiau rhoi’r gorau iddi ond mae argaeledd tybaco rhad yn ei wneud yn llawer anoddach.
Dywedodd Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach Cymru ar Dybaco: “Mae’r farchnad tybaco anghyfreithlon yn fygythiad mawr i iechyd, yn enwedig iechyd plant. Nid yw gwerthwyr tybaco anghyfreithlon yn poeni am gyfyngiadau oedran na chyfreithiau eraill sy’n cyfyngu ar werthu tybaco ac maent yn sicrhau bod sigaréts ar gael yn hawdd i blant am brisiau fforddiadwy. Mae’r rhai sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon ar ddiwedd cadwyn gyflenwi ryngwladol. Mae’r arian a gynhyrchir o werthiannau yn ariannu troseddau trefniadol sy’n gysylltiedig â gweithgarwch anghyfreithlon arall gan gynnwys cyffuriau anghyfreithlon eraill.
“Ar hyn o bryd mae nifer o’r trawiadau yn destun ymchwiliadau a fydd yn arwain at erlyn yr unigolion sy’n gyfrifol. Bydd Safonau Masnach yn parhau i daclo tybaco anghyfreithlon ledled y wlad a gall unrhyw un sy’n ymwneud â chyflenwi tybaco anghyfreithlon ddisgwyl i’w stoc cael ei gymryd ganddynt a chamau troseddol yn eu herbyn.”
Gallwch helpu i yrru tybaco anghyfreithlon allan o’ch cymuned. I adrodd amdano cliciwch YMA.
Os ydych chi eisiau rhoi’r gorau i ysmygu ewch i https://www.helpmequit.wales/
Ysgrifennwyd gan:
Lee Evans
Arweinydd Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Safonau Masnach Cymru