Cyfrif Mam o’r Farchnad Anghyfreithlon
Mae’r newyddion yn creu delwedd amlwg o’r farchnad tybaco anghyfreithlon. Ffeithiau, ffigyrau, a gweithrediadau yn llywio ei bortread. Ond y tu hwnt i’r ffigurau, beth yw costau dynol tybaco anghyfreithlon? Yn yr erthygl hon, mae Claire, mam sy’n gweithio, yn rhannu ei stori bersonol.
Pan fyddwch chi’n meddwl am dybaco anghyfreithlon, efallai y bydd dau beth yn dod i’ch meddwl. Y cyntaf yw’r ddelwedd nodweddiadol o’ch siop gornel leol yn gwneud arian cyflym. Meddyliwch am y sibrwd, a phecynnau yn cael eu rhoi dan y til. Yr ail yw gangiau trefnus ar hyd a lled y wlad, sy’n gysylltiedig gyda mentrau troseddol lluosog (a difrifol iawn yn aml). Mae fy nghyfrif yn wahanol i’r ddwy ddelwedd hyn. Dyma fy mhrofiad personol ac mae’n ymwneud â fy nheulu a’r effaith y mae’r farchnad hwn wedi cael arnom ni.
Cyn i mi fynd ymlaen, dwi am rannu ychydig amdanaf. Rwy’n fam, yn wraig ac mae gen i dri o blant.
Fel y mwyafrif, fy nheulu yw popeth i mi. Rydym yn agos ac yn mynd trwy’r un treialon a gorthrymderau bywyd, fel pawb arall. Anghofio citiau Addysg Gorfforol, jyglo gyrfa, llywio trwy Covid: mae fy mywyd yn adlewyrchu llawer o rieni sy’n gweithio ledled y DU. Mae fy mherthynas gyda fy mhlant yn wych. Rydyn ni’n siarad, yn dadlau, yn cadw golwg ar ein gilydd, yn ymadael (prifysgol!), ac rydyn ni yn gyffredinol bob amser yno i’n gilydd.
Nid yw fy mhrofiad yn eithriad. Fodd bynnag, gwelodd y cyfnod anodd hwn fi yn dod wyneb yn wyneb gyda’r farchnad tybaco anghyfreithlon, a’r effeithiau real iawn y mae’n eu cael. Yn awr, cyn i chi feddwl am fersiwn Mumsnet o Law and Order, arhoswch. Er, pe rhoddid y cyfle i gael gwared ar y farchnad anghyfreithlon mewn tân o seirenau, byddwn wedi gwneud hynny! Fel y byddwch yn darganfod, mae fy mhrofiad yn llawer llai dramatig, ond mae’n ymwneud â fy mab ac amser arbennig o anodd i’n teulu.
Mae fy mab Jacob yn hynod garedig, yn hwyl ac mae’n berson iawn yn gyffredinol. Yn blentyn, roedd yn caru’r ysgol ac roedd ganddo griw gwych o ffrindiau. Yna daeth blynyddoedd yr arddegau, a rhedasom i mewn i gyfnod anodd (sioc ac arswyd!). Roedd bod yn 14 oed yn llawn pryder, dadlau a nosweithiau digwsg. Roedd y rhan helaethaf o’r flwyddyn hon wedi’i dominyddu gan un thema: ysmygu.
Roeddwn i’n gwybod am y tro cyntaf bod rhywbeth wedi codi pan oeddwn i’n arogli mwg sigaréts. Fel rhieni di-ri sydd wedi dawnsio’r ddawns hon, fe drodd fy stumog pan wnes i arogli mwg am y tro cyntaf. Yr esgusodion yna, a oedd yn cynnwys y llinell safonol o ‘Roeddwn yn hongian o gwmpas gyda phobl a oedd ysmygu’. Rwy’n gyn-ysmygwr, felly roeddwn i’n gwybod bod arogl yn rhy gryf i ddod yn syml o fod gydag ysmygwyr. Cadarnhawyd fy mhryderon pan sylwais ar y staeniau nicotin ar fysedd Jacob. Mae gweld dwylo eich plentyn wedi’u staenio fel hyn yn dorcalonnus.
O ddifrif, faint oedd o’n ysmygu? Gwaethygodd pethau pan sylwais ar ei beswch cas. Roedd y peswch hwnnw’n ddi-baid… roedd ei glywed yn ofidus iawn.
I unrhyw un sydd heb blant, mae’n realiti aruthrol gweld effeithiau ysmygu ar eich plentyn. Rydych chi’n eu cario am naw mis, yn ceisio gwneud y dewisiadau iechyd gorau ar eu cyfer nhw, ac yna… hyn. Roedd yn anodd gweld y plentyn roeddwn wedi’i warchod a’i fagu ers 14 mlynedd yn cymryd arferiad mor niweidiol.
Ar ôl llawer o wadiadau a sgyrsiau llym, chwiliais ei ystafell yn y diwedd.. Yr oeddwn yn flin, ac roeddwn yn ysu am brawf concrit. Des i o hyd i rai pecynnau o sigaréts gyda’r brandio mewn iaith dramor. Gwn nawr fod hwn yn ddangosydd clir bod y pecynnau yn anghyfreithlon. Cefais hyd i ‘senglau’ gwyn a sgleiniog hefyd yn gudd drwy ei ystafell. Roedd hyn yn cadarnhau popeth yr oeddwn i eisoes wedi gwybod.
Fe drodd sgyrsiau yn gyflym i frwydrau sgrechian. Daliaf fy nwylo i fyny a dweud bod y ddau ohonom ar fai yn hyn o beth. Roeddwn yn bryderus, ac roeddwn i eisiau ei amddiffyn. Bydd llawer o rieni’n gwybod am y teimlad o geisio cadw’n dawel pan fydd clychau rhybuddio yn digwydd canu. Roedd yn gyfnod arbennig o anodd i mi a fy nheulu…
Un o nodweddion trist y cyfnod hwn oedd darganfod i’r fath raddau roedd fy mab yn mynd i gael y sigaréts hyn. Rwy’n credu bod y sigaréts hyn yn llawer cryfach na’r rhai rydych chi’n dod o hyd iddyn nhw yn y DU, ac felly wedi arwain at ddibyniaeth eithaf cryf. I gael y sigaréts, roedd yn gadael y tŷ mewn dillad ysgol, ac ar fy ffordd i’r gwaith byddwn yn ei weld yn cerdded yn ôl allan o’i wisg. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn cerdded i’r siop ac yn newid, fel bod y siopwyr ‘ddim yn gwerthu i blant ysgol’. Wrth edrych yn ôl, mae’n ymddangos nad oedd unrhyw fath o foesoldeb gan werthwyr hurt, gan fod gan Jacob wyneb babi ac roedd yn amlwg o dan oed. Ar ben hyn, dechreuodd pethau fynd yn llawer gwaeth pan sylwais fod arian yn mynd ar goll.
Roedd arian ar goll o fy waled yn arbennig o anodd i mi ddod i delerau ag ef. Nid dyma pwy oedd Jacob ac mae’n dangos cymaint yr oedd yn fodlon mynd i barhau i ysmygu. Doedd byth yn swm mawr ond roedd yn hollol estron i ni fel teulu. Yn ychwanegol at hyn, fe sylwodd fy mhlant eraill fod eu harian ar goll hefyd. Plentyn oedd Jacob ar y pryd ac wrth edrych yn ôl, mae’n drist mai ysmygu oedd yn achosi hyn.
Ar ôl sgwrs arbennig o agored gyda Jacob, dysgais fod siop leol yn gwerthu i blant ysgol, yn gwerthu pecynnau am £3 a senglau am 10c yn unig. Prisiau arian poced a diystyru iechyd fy mhlentyn oedd wedi achosi hyn. Roeddwn i’n grac, ac roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol ddiymadferth.
Ffoniais yr heddlu, ond nid wyf yn credu bod unrhyw beth wedi dod ohono. Ar ôl ychydig roedd popeth wedi’i adeiladu i fyny, ac fe wnes i wynebu perchennog y siop fy hun. Gweiddais arno a gofyn pam ei fod yn meddwl ei bod yn iawn gwerthu i blant dan oed?! Yn syml, nid oedd ots ganddo. Roeddwn i’n gallu gweld yn glir gyda’r diffyg pryder llwyr. Daeth y rhyngweithiad hwn i ben gyda fe’n chwerthin am fy mhen. Roeddwn i’n gandryll. Yn fy llygaid i, roedd yn ecsbloetio plant nad oedden nhw’n gwybod dim gwell, ac yn gwneud arian heb feddwl am y caethiwed gydol oes yr oedd yn ei achosi. Mae’n fy ngwylltio i weld plant sy’n cael eu hecsbloetio yn y modd hwn.
Mae’n werth nodi bod mynediad hawdd at sigaréts yn mynd law yn llaw â bod gyda chyfoedion oedd yn ysmygu. Wrth edrych yn ôl, roedd llawer o elfennau ystrydebol yn achosi i fy mhlentyn ysmygu. Pwysau gan gyfoedion, tic. Tybaco rhad a hygyrch, tic. Gwerthwyr anghyfreithlon nad oes ots ganddyn nhw, tic. Allan o’r elfennau hyn mae fy nicter yn canolbwyntio’n bennaf ar y gwerthwyr, serch hynny. Roeddent yn oedolion a ddylai fod wedi gwybod yn well. Gallasai’r holl sefyllfa hon fod wedi ei hosgoi pe bai moesau wedi dod cyn arian.
Felly ble ydyn ni nawr? 4 blynedd yn ddiweddarach mae Jacob i ffwrdd i’r brifysgol. Fe wnaethon ni oroesi blynyddoedd yr arddegau, ac aeth ein perthynas yn ôl i normal. Rydym wedi gwneud cynnydd da ers y cyfnod hynny, ac eto mae’n dal i ysmygu. Tra ei fod wedi cwtogi, teimlaf fod y difrod wedi ei wneud yn barod. Ar bamffledi rydych yn darllen am sut mae tybaco anghyfreithlon yn borth i blant, ac o’r profiad hyn gallaf ddweud ei fod yn wir. Nid oes gennyf amheuaeth mai’r sigaréts anghyfreithlon a ddechreuodd y daith hon ac a achosodd gaethiwed cryf i’m plentyn. Mae Jacob yn dal i gael peswch cas yn 18 oed, a minnau’n dal i boeni am ei iechyd a’i ysgyfaint.
Fel mam, byddaf yn parhau i geisio ei gael i roi’r gorau iddi. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Jacob (a fy nheulu!). Mae’n wych ei weld yn ffynnu ac yn mynd i’r brifysgol, a gobeithio y bydd y bennod nesaf hon yn gweld diwedd ar y caethiwed sydd wedi achosi llawer o ofid yn y gorffennol. Rwy’n byw mewn gobaith. I rieni yn yr un sefyllfa â mi: peidiwch â rhoi’r gorau iddi.. Gwnewch bopeth a allwch i atal ysmygu a gwerthiannau dan oed yn gynnar. Adrodd, adrodd, ac adrodd eto. Mae pobl yn aml yn meddwl fod tybaco anghyfreithlon ar ben isaf y raddfa droseddu, ac felly nid yw’n broblem ddifrifol.
O’m profiad i, gwn fod hon yn broblem real iawn, sy’n effeithio ar lawer o deuluoedd ac o blant, gan gynnwys fy rhai fy hun. Mae enwau wedi’u newid i ddiogelu hunaniaeth Claire a’i theulu.