Gorfodwyd siop Zany ar Stryd Fasnachol, Aberdâr i gau am dri mis yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful. Yn dilyn atafaelu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a mwy na 5000 o e-sigarets tafladwy, nad oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016, caewyd y safle lawr.
Gwelwyd grŵp o blant yn prynu e-sigarets a chynhyrchion tybaco yn yr ardal leol, a arweiniodd yn ei dro at ymddygiad gwrthgymdeithasol a ysgogodd yr ymchwiliad. Canfu ymchwiliad gan safonau masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf fod gwerthiant cynhyrchion tybaco ffug ac e-sigarets tafladwy i blant.
Yn ôl swyddogion safonau masnach y Cyngor, roedd y busnes wedi cael cyngor gan swyddogion yr adran safonau masnach y cyngor ond wedi parhau i weithredu yn anghyfreithlon.
Ar ôl yr achos llys dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Byddwn yn ceisio cymryd camau tebyg yn erbyn unrhyw eiddo arall yn y fwrdeistref Sirol sy’n masnachu mewn nwyddau anghyfreithlon ac yn gwerthu nwyddau â chyfyngiad oedran i blant.”
“Mae’r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd, ond y tro hwn perchennog y busnes a’r siop sydd wedi dangos diystyrwch llwyr o’r Awdurdod Lleol, Heddlu De Cymru a’r gymuned ehangach.”
Drwy anfon neges glir i fusnesau lleol, mae Cyngor Merthyr Tudful yn gobeithio ffrwyno’r gwerthiant tybaco anghyfreithlon yn y gymuned leol.